Rheolaeth Cyswllt Cymunedol A Digwyddiadau
Oes gennych chi awch am eich cymuned leol, cefnogi busnesau lleol, a buddsoddi yn yr economi leol? Ymunwch â ni i sianelu syniadau creadigol a sbarduno newid i helpu i gysylltu’r gymuned, lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd a chefnogi dyfodol mwy cynaliadwy i ni a chenedlaethau’r dyfodol!
Rydym yn chwilio am bobl greadigol a brwdfrydig i ymuno â ni i gyflwyno prosiect newydd cyffrous sy'n cynnwys cydweithio i greu adnodd gwybodaeth canolog am yr hyn sy'n digwydd yn yr ardal. Mae'r prosiect yn cynnwys nodi a hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol presennol, cynnal ymgynghoriadau i ddeall beth hoffai pobl weld mwy ohono’n digwydd yn eu cymuned, a chydweithio â rhanddeiliaid lleol eraill i gydlynu digwyddiadau a gweithgareddau yn seiliedig ar yr adborth hwn. Bydd y prosiect peilot cychwynnol hwn yn rhedeg hyd at ddiwedd Mehefin 2022.
Cyfleoedd cyflogedig a gwirfoddol ar gael – rolau rhan-amser a llawn amser ar gael
Comments