Stori Y Tŷ Gwyrdd
Crëwyd Y Tŷ Gwyrdd i gynnig gofod cynhwysol a chroesawgar i'r gymuned leol, i ddathlu a hyrwyddo'r bobl a'r mentrau ysbrydoledig yn Ninbych a'r ardal gyfagos, ac i helpu i leihau effaith y cymunedau ar yr amgylchedd trwy gynnig opsiynau a chyfleoedd dim gwastraff fforddiadwy a hygyrch i hwyluso economi gylchol.
Siopa’n lleol, ail-lenwi a chynhyrchion masnach deg
Ymlaciwch â phaned tra bo’ch plant yn Chwarae
Crëwch ychydig o hud yn un o'n gweithdai
Ail-lenwch yn ein hyb cymunedol
‘Trwy fyw, gwirfoddoli, a gweithio yn yr ardal rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan greadigrwydd a chyfeillgarwch y gymuned leol. Hoffwn ymuno â'r mudiad i wneud cyfraniad cadarnhaol a sbarduno newid i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yma. Fe wnaeth hyn, ynghyd â fy nghariad at yr awyr agored ac amddiffyn ein hamgylchedd, fy ysgogi i sefydlu Y Tŷ Gwyrdd, menter gymdeithasol newydd yn Ninbych.
Dros y blynyddoedd rwyf wedi ymchwilio a phrofi cynhyrchion ecogyfeillgar at ddefnydd personol. Mae tystiolaeth gref i ddangos bod cynnydd mewn ymwybyddiaeth ac awydd cynyddol i gefnogi gostwng ein heffaith ar yr amgylchedd a diogelu'r byd naturiol o'n cwmpas. Er mwyn gwthio dilyniant, rwy’n credu bod angen i fwy o opsiynau fod ar gael am brisiau fforddiadwy, a mwy o gyfleoedd i hwyluso economi gylchol.’ ’Sylfaenydd Y Tŷ Gwyrdd, Marguerite Pearce.
Yng ngeiriau Syr David Attenborough ‘Mae dyfodol bywyd ar y ddaear yn dibynnu ar ein gallu i weithredu’.
Ail-lenwi gyda dim gwastraff a llai o ddeunydd pacio
Cefnogi planed gynaliadwy, ddyfeisgar.
Helpu lleihau gwastraff a byw'n fwy cynaliadwy.
Hyb Cymunedol
Siop | Caffi | Man Chwarae i Blant | Gofod Cymunedol
Hyb Cymunedol gyda siop, caffi a lle chwarae i blant yng nghanol Dinbych i ddarparu gofod cymunedol cynhwysol, croesawgar i bawb ddod i gymdeithasu, rhannu syniadau a chefnogi a hyrwyddo busnesau lleol eraill.