top of page

Polisi’r Storfa

Gofal Cwsmer 

Yn Y TÅ· Gwyrdd rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal rhagorol i gwsmeriaid ac rydym yn angerddol am gynnig gofod ysbrydoledig, cynhwysol a chroesawgar i'r gymuned leol ddod at ei gilydd i gymdeithasu, siopa'n lleol, lleihau effaith amgylcheddol, cynyddu lles, darparu lleoliad ar gyfer cynnal gweithgareddau cymunedol hwyliog sy'n hyrwyddo lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu, ac yn cynnwys celf a chrefft. 


Mae gan ein holl gwsmeriaid yr hawl i gael eu trin i'r un lefel o wasanaeth. I'r perwyl hwnnw ni fydd y rheolwyr a'r tîm yn Y TÅ· Gwyrdd yn gwneud rhagdybiaethau am anghenion neu alluoedd unigolyn, yn hytrach byddant yn siarad â nhw i ddarganfod eu hanghenion. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i gyflenwi cymorth mewn ffordd briodol a hyrwyddo ein cymwysterau dwyieithog.


Rydym yn addo delio â chwsmeriaid mewn modd cwrtais, prydlon a chynorthwyol. Byddwn bob amser yn agored ac yn onest gyda chi, yn rhoi cymaint o help ag y gallwn fel y gallwch wneud dewisiadau gwybodus, yn enwedig ynglÅ·n â lleihau effaith amgylcheddol, ac wrth gwrs rydym bob amser yn gweithredu yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.


Byddwn yn sicrhau bod ein holl gyfleusterau yn hygyrch i bawb.
Hoffem ichi drin ein tîm i gyd yn deg a chyda pharch, rhoi adborth inni fel y gallwn wella ein cynhyrchion a'n gwasanaethau, ac os ydych yn anhapus ag unrhyw gynnyrch neu wasanaeth, siaradwch â ni a rhoi cyfle inni unioni'r mater.

Preifatrwydd a Diogelwch 

Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn a pharchu eich preifatrwydd.


Byddwn yn esbonio'n fanwl pam ein bod yn casglu gwybodaeth bersonol am bobl sy'n ymweld â'n gwefan, sut rydym yn ei defnyddio, yr amodau y gallwn ei datgelu i eraill a sut rydym yn ei chadw'n ddiogel. Gall y polisi hwn newid o bryd i'w gilydd felly gwiriwch y dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Y dyddiad adolygu diweddaraf yw Gorffennaf 2020. Trwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i fod yn rhwym i’r polisi hwn. 

Ymholiadau Cyfanwerthol

Rydym bob amser yn hapus i siarad â chyflenwyr lleol a moesegol sydd â chynhyrchion neu nwyddau o safon sy'n cyd-fynd â gwerthoedd ein cwmni ac a fyddai o ddiddordeb i'n cwsmeriaid.


​

Os oes gennych chi gynnyrch neu nwyddau y credwch a allai fod o ddiddordeb ac yr hoffech weithio gyda ni, cysylltwch â ni. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Dulliau Talu

Cardiau Credyd / Debyd 

bottom of page