Postio a Dychweliadau
Polisi Postio
Mae pob archeb yn amodol ar argaeledd cynnyrch. Os nad oes eitem mewn stoc ar yr adeg y byddwch yn gwneud eich archeb, byddwn yn eich hysbysu ac yn ad-dalu cyfanswm eich archeb, gan ddefnyddio'r dull talu gwreiddiol.
Mae eitemau ar ein gwefan ar gael i'w casglu o'n siop neu trwy'r post dosbarth cyntaf i gyfeiriadau yn y DU.
Rhoddir amcangyfrif o amser dosbarthu i chi unwaith y bydd eich archeb wedi'i gwneud. Amcangyfrifon yw'r amseroedd dosbarthu ac maent yn cychwyn o'r dyddiad cludo, yn hytrach na'r dyddiad archebu. Mae amseroedd dosbarthu i'w defnyddio fel canllaw yn unig ac maent yn amodol ar dderbyn a chymeradwyo'ch archeb.
Oni bai bod amgylchiadau eithriadol, rydym yn gwneud pob ymdrech i gyflawni eich archeb cyn pen 7 diwrnod busnes (dydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau cyhoeddus) o ddyddiad eich archeb.
Polisi Dychwelyd ac Ad-dalu
Dychwelyd eich cynnyrch oherwydd ichi newid eich meddwl
​
​
Os ydych chi wedi newid eich meddwl ynglÅ·n â chadw'ch pryniant, dychwelwch ef heb ei ddefnyddio ac yn ei gyflwr gwreiddiol (gan gynnwys yr holl labeli a thagiau yn gyfan e.e. gallem ailwerthu'r eitem am bris llawn) gyda phrawf o’i brynu o fewn 30 diwrnod, ac fe wnawn ei gyfnewid neu roi ad-daliad i chi.
Ar gyfer pryniannau ar-lein a ffôn, byddwn yn ad-dalu'r tâl dosbarthu safonol os dychwelir yr archeb lawn cyn pen 14 diwrnod.
Dylech fod yn ymwybodol mai dim ond ar ôl i'r eitem gael ei dychwelyd atom a'i gwirio gan un o'r tîm y bydd eich ad-daliad yn cael ei brosesu; gall hyn gymryd hyd at 7 diwrnod gwaith.
​
Dychwelyd eitem ddiffygiol
Os yw'ch cynnyrch yn datblygu nam o fewn 30 diwrnod i'w brynu, dychwelwch gyda phrawf o’i brynu a byddwn yn ei gyfnewid neu yn rhoi ad-daliad.
Yn unol â thelerau Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015, ar ôl 30 diwrnod, byddwn yn trwsio neu'n rhoi cynnyrch newydd i chi yn ei le.
Ar gyfer pryniannau ar-lein a ffôn, byddwn yn ad-dalu'r tâl dosbarthu safonol os dychwelir yr archeb lawn cyn pen 14 diwrnod.