top of page

AWEN: Barod i ddechrau menter gymdeithasol?



Gweminar ar-lein rhad ac am ddim, 17 Mai 2022, 10.30am – 12.30pm

Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau sy'n creu newid cymdeithasol neu amgylcheddol cadarnhaol. Maent yn creu cyfleoedd cyflogaeth ac yn ail-fuddsoddi eu helw yn ôl yn eu busnes neu'r gymuned leol ac yma yn y DU maent yn cyfrannu dros £60 biliwn bob blwyddyn i economi’r DU.


Trwy ddechrau menter gymdeithasol byddwch yn ymuno â mudiad mawr o bobl sy’n tynnu'n groes i fodelau busnes traddodiadol, gan ddangos bod ffordd decach, wyrddach a mwy cynhwysol o wneud busnes.


Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad rhyngweithiol ar-lein hwn lle byddwch yn clywed am y cyngor a’r cymorth ymarferol sydd eu hangen arnoch er mwyn eich rhoi ar ben ffordd ar eich taith i ddechrau menter gymdeithasol. Byddwn yn clywed gan arbenigwyr menter gymdeithasol a'r siaradwyr gwadd Sue Dovey, o Sue Dovey Associates, a Rachael Hobbs, o Ganolfan Cydweithredol Cymru.


Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â'r canlynol: Beth yw menter gymdeithasol? • Ffeithiau a ffigurau ynglŷn â maint y mudiad menter gymdeithasol • Beth sy'n ei wneud yn wahanol i fusnesau eraill – manteision ac anfanteision • Gwybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddechrau menter gymdeithasol

Cyngor a chymorth ymarferol wrth sefydlu menter gymdeithasol • Deall y daith • Sut i adeiladu tîm o'ch cwmpas • Strategaeth gyllid a chynllunio ariannol • Beth sy'n gwneud busnes cymdeithasol gwych • Pa gymorth sydd ar gael


Byddwn hefyd yn cynnwys menywod o bob cwr o Gymru sydd eisoes wedi sefydlu eu mentrau cymdeithasol eu hunain ac yna bydd cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau iddynt.

Bywgraffiadau’r siaradwyr:

Sue Dovey: Yn angerddol am fusnes moesegol ac entrepreneuriaeth gymdeithasol, ar ôl cefnogi dros 200 o fentrau cymdeithasol i sefydlu trwy waith y School for Social Entrepreneurs.

Rachael Hobbs: Cynghorydd Busnes yn Busnes Cymdeithasol Cymru, sy'n rhan o Ganolfan Cydweithredol Cymru.Mae Rachael yn rhoi cyngor busnes, cymorth a mentora un i un i fentrau cymdeithasol a'r rhai sy'n dymuno eu sefydlu.



2 views0 comments
bottom of page