Er gwaetha’r glaw trwm yr wythnos diwethaf, fe lapiom yn gynnes a mwynhau mynd allan i blannu letys gyda Rod o'r Woodland Skills Centre. Roedd yn anhygoel gweld y planhigion tomato yr oedd disgyblion Ysgol Pendref wedi’u plannu'r wythnos cynt wedi dyblu o ran maint!
Bydd y sesiwn nesaf ddydd Iau 27 Mai am 3.30pm yn Ysgol Pendref. Gwisgwch eich esgidiau glaw a dewch draw i ymuno â ni ar gyfer sesiwn garddio deuluol hwyliog.
Dysgwch fwy yn CLWB GARDDIO AR ÔL YSGOL I BLANT / AFTER SCHOOL KIDS GARDENING CLUB (ytygwyrdd.cymru)
Comments