Mae gennym ddwy swydd gyffrous i wirfoddolwyr yn Y Tŷ Gwyrdd, canolfan gymunedol newydd Dinbych, sy'n paratoi i agor siop sy'n gwerthu cynnyrch lleol, moesegol ac ail-lenwi.
We have two exciting volunteer opportunities at Y Tŷ Gwyrdd, Denbigh’s new community hub, preparing to open a shop selling local, ethical and re-fill products.
Os ydych yn angerddol am eich cymuned leol ac yn teimlo'n gryf eich bod eisiau helpu i leihau effaith cymunedau ar yr amgylchedd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
If you are passionate about your local community and feel strongly about helping to reduce the communities’ impact on the environment then we’d love to hear from you.
Rydym yn chwilio am geisiadau ar gyfer Cynorthwyydd Siop a Chynorthwyydd Marchnata Digidol. Mae'r ddwy swydd yn wirfoddol ac yn rhan amser. Byddai profiad blaenorol yn fanteisiol er nad yw'n hanfodol.
We are looking for applications for a Shop Assistant and a Digital Marketing Assistant. Both roles are on a part-time voluntary basis and previous experience is preferred although not essential.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni drwy helo@ytŷgwrdd.cymru neu facebook @ytygwyrdd
If you’d like to find out more please get in touch via: helo@ytŷgwrdd.cymru or facebook @ytygwyrdd
Comentários